#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-762

Teitl y ddeiseb: Symud Cynulliad Cymru o Gaerdydd

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw am symud y Cynulliad Cenedlaethol o Gaerdydd i Aberystwyth er mwyn dechrau 'ail-gydbwyso' bywyd ac economi cenedlaethol Cymru.

Mae Caerdydd yn ffynnu, ac yn tyfu ar gyfradd esbonyddol, tra bod y rhan fwyaf o Gymru yn aros yn ei hunfan, sy'n ei gwneud yn glir nad yw'r model presennol Caerdydd/Cymru o ddatblygu economaidd yn gweithio ar gyfer 80 y cant o'r wlad.

 Mae Caerdydd yn cael y gyfran fwyaf o fuddsoddiad a swyddi yn cael effaith andwyol ar weddill y wlad, ac er bod y duedd hon yn weladwy yn y degawdau sydd wedi mynd heibio, mae wedi ennill mwy o fomentwm a dod hyd yn oed yn fwy niweidiol er lles y genedl ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eistedd am y tro cyntaf ym 1999.

 Yn waeth na hynny, mae tystiolaeth gynyddol o lygredd; y math o lygredd sy'n anochel pan fo'r rheini sydd â dylanwad gwleidyddol a rheolaeth ar y pwrs cyhoeddus yn cyfarfod yn rheolaidd, mewn cyd-destunau cymdeithasol a chyd-destunau eraill, y rheini sy'n ceisio manteisio ar gysylltiadau o'r fath.

 Credwn, yn y byrdymor, mai'r ffordd hawsaf o wella'r anghydbwysedd anghynaladwy a chynyddol hwn, a'r bygythiad cynyddol o lygredd, yw symud Cynulliad Cymru a'i hasiantaethau a'i hadrannau amrywiol y tu allan i Gaerdydd.

 Byddai Aberystwyth yn leoliad delfrydol a chanolog ar gyfer y Cynulliad a'i staff cymorth. Gellid lleoli asiantaethau eraill o amgylch y wlad, oherwydd yng nghyfnod y rhyngrwyd a fideo-gynadledda, nid oes angen i weision sifil ac eraill weithio y drws nesaf i'w gilydd.

 Byddai'r buddion i rai o'r rhannau o Gymru sydd wedi'u hesgeuluso fwyaf yn gwneud iawn yn fuan am y costau cychwynnol sy'n ymwneud â'r adleoliadau. Mae parhau gyda'r trefniant presennol yn condemnio Cymru i ddyfodol fel dinas-wladwriaeth, gyda'r holl fanteision yn mynd i Gaerdydd. Nid dyma'r dyfodol yr ydym am ei gael i Gymru.

 

 

Cefndir

Yn dilyn y refferendwm a gymeradwyodd ddatganoli ym mis Medi 1997, cymerwyd yn ganiataol y byddai'r Cynulliad newydd wedi'i leoli yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, o ystyried ei agosrwydd at adeiladau'r Goron, sef lleoliad y Swyddfa Gymreig.

Dechreuodd y trafodaethau ar 9 Hydref 1997 rhwng Cyngor Caerdydd a'r Swyddfa Gymreig, ond daethant i ben ar 24 Tachwedd pan wrthododd Llywodraeth y DU y fargen a gynigiwyd gan Gaerdydd. Ym mis Rhagfyr 1997, cyhoeddodd y Swyddfa Gymreig ddogfen ymgynghori a oedd yn awgrymu gwahanol leoliadau a cheisiadau i wahodd. Derbyniodd y Swyddfa Gymreig 24 o geisiadau ledled Cymru erbyn 31 Ionawr 1998. Ym mis Chwefror 1998, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol Ron Davies restr fer o bedwar lleoliad - tri yng Nghaerdydd ac un yn Guildhall Abertawe. Ym mis Ebrill, gwnaed y cyhoeddiad terfynol mai Bae Caerdydd fyddai'r lleoliad. Roedd disgwyl adeilad newydd, ond defnyddiwyd Tŷ Hywel yn lleoliad dros dro. Daeth y Pierhead hefyd yn rhan o ystâd y Cynulliad. Agorwyd drysau'r adeilad newydd - y Senedd - yn 2006.

Mae gan y Cynulliad hefyd ganolfan wybodaeth yng Ngogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Ers 2007, mae gwahaniaeth rhwng y staff sy'n gweithio i'r Cynulliad a gyflogir gan Gomisiwn y Cynulliad a'r gweision sifil sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru.

Daeth y Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays yn Bencadlys i Lywodraeth Cymru, ond ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi agor swyddfeydd ledled Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd yng Nghaergybi, Caernarfon, Dolgellau, Cyffordd Llandudno, Wrecsam, Llandrindod, Y Drenewydd, Caerfyrddin, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Nantgarw, Casnewydd, Trefforest, Bedwas a Chaerffili. Mae swyddfa hefyd wedi'i lleoli yn Aberystwyth lle mae'r rhan fwyaf o'r staff sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth.

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Adroddiad blynyddol ar Gyflwr yr Ystâd. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am niferoedd staff a gyflogir mewn gwahanol rannau o Gymru. Dyma'r niferoedd ar gyfer 2015/16:

Gogledd Cymru 522 

Canolbarth Cymru 470

De-orllewin Cymru 452

De-ddwyrain Cymru 1,279

Caerdydd 2,647

Yn 2014, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ar Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad hwn yn archwilio a yw Rhaglen y Strategaeth Leoli wedi cyflawni ei hamcanion mewn modd sy'n cynnig gwerth am arian.  Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni amcanion y Strategaeth Leoli, ond bod ansicrwydd o ran y gwerth am arian yr eodd y Rhaglen yn ei gynnig. Er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi creu'r adeiladau swyddfa newydd i'r ansawdd ddisgwyliedig ac o fewn costau'r contract, ychydig o ystyriaeth a roddwyd i opsiynau eraill o ran lleoliad, roedd diffyg amcangyfrif cadarn o ran costau'r rhaglen, ac nid yw graddau'r buddion parhaus sy'n deillio o'r Rhaglen bellach yn cael eu monitro.

Nodwyd yn yr adroddiad:

Amcan eglur Llywodraeth Cymru oedd cynyddu cyfran y staff a weithiai y tu allan i Gaerdydd, ond llesteiriwyd y gwaith o gynllunio’r gweithlu gan gyfyngiadau ar wybodaeth am niferoedd staff, y sylw cyfyngedig i opsiynau o ran adeiladau, ac amcangyfrif rhy isel o gostau’r Rhaglen.

Aed ymlaen i ddweud:

Mae’r Rhaglen wedi cynyddu canran y staff sy’n gweithio y tu allan i Gaerdydd, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi adleoli cymaint o weithwyr ag a fwriadwyd.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru yn 2014. Cafodd y Pwyllgor ei friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ymateb manwl i argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru. Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chynnal ymchwiliad i'r Strategaeth Leoli.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.